I ddathlu Diwrnod Gofal 2025 ddydd Gwener, 21 Chwefror, mae bachgen 10 oed sydd wedi bod mewn gofal maeth yn Sir Gaerfyrddin ers ychydig dros ddwy flynedd, wedi rhannu ei gerdd am ei daith deimladwy.

Yn dwyn y teitl ‘Fy Mywyd Maeth’ mae’r gerdd yn rhoi cipolwg pwerus ar brofiadau G, o’r ansicrwydd o fynd i ofal i ddod o hyd i sefydlogrwydd, llawenydd a pherthyn mewn cartref gofalgar.

Mae Diwrnod Gofal yn ddathliad o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Fy Mywyd Maeth

Rwy’n nerfus, yn bryderus ac mae popeth yn od,
I fi a’m chwiorydd sydd ar siwrnai o ddarganfod,
Mae’r bobl yn ddieithr ac rwy’n teimlo mor ofnus,
Y cyfan rwy’n gofyn yw am deulu cariadus.

Mae’r rheolau ‘di newid yn y bywyd newydd hwn,
O’r blaen roedd pethau yn wael, ond dyna’r cyfan a wn,
Daw’n haws ac yn haws wrth i’r dyddie fynd ‘mlân,
Yma, ni sy’n bwysig a dyna ddiwedd y gân.

S’dim angen symud ysgol gyda’m teulu maeth,
Ac mae’r bwyd yn lysh, mae hynny’n ffaith,
Rwy’n dwlu ar ddiwrnodau mas llawn sbri,
Ac mae’r ‘Dolig yn sbeshal yng nghanol y miri.

Ar ôl blwyddyn, daw’r diwrnod mawr,
Penderfynu aros mewn gofal yn awr,
Dod o hyd i deulu sy’n wirioneddol werth y byd,
I garu a chymryd fi a’m chwiorydd i gyd.

Mae gofal maeth yn sgeri ond rhaid dal ati er gwaetha’r loes,
Er mwyn inni geisio dod o hyd i’n cartref am oes,
Rwy’n caru fy nheulu newydd ac maen nhw’n fy ngharu i,
Mae pob dydd yn llawn cariad ac anturiaethau lu.

Sylwch: Cyfieithiad yw’r gerdd hon.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

“Mae cerdd G yn ein hatgoffa o gryfder a dewrder plant a phobl ifanc mewn gofal maeth a’r rôl hanfodol y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae yn eu bywydau. Rydym yn hynod ddiolchgar i G am rannu ei daith gyda ni ac yn gobeithio y bydd ei gerdd yn ysbrydoli eraill i ystyried maethu. Drwy agor eu calonnau a’u cartrefi, mae ein gofalwyr maeth yn gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc ar draws Sir Gaerfyrddin.”

Wrth i ni barhau i ddathlu plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, gan gynnwys Theatrau Sir Gâr, Actif, a’r Scarlets. Maent yn darparu cyfleoedd a manteision ychwanegol i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gaerfyrddin.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch ysbrydoli gan daith G, ystyriwch ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Gâr. I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud ymholiad, cysylltwch â ni. Gyda’n gilydd, gallwn helpu plant a phobl ifanc fel G i ddod o hyd i’r cariad, y sefydlogrwydd a’r ymdeimlad o berthyn y maent yn ei haeddu.

cysylltwch

cysylltu â ni

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.