pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Wrth faethu gyda thîm Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin, byddwch yn cael lwfansau ariannol hael. Mae’r rhain yn seiliedig ar ffactorau fel y math o faethu rydych chi’n ei wneud, faint o blant rydych chi’n eu maethu, ac am ba mor hir rydych chi’n maethu.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae yna Ofalwyr Maeth sy’n derbyn rhwng £295 a £330 yr wythnos.

buddion eraill

Mae llawer o fanteision eraill i fod yn ofalwr maeth. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau y byddwch yn eu cael, byddwch hefyd yn cael y canlynol yn Sir Gaerfyrddin:

  • Hyfforddiant cyn ac ar ôl cael eich cymeradwyo.
  • Hyfforddiant pwrpasol.
  • Cefnogaeth pryd bynnag y bydd ei hangen arnoch: 24 awr y dydd, bob dydd
  • Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social.
  • Gostyngiadau gyda phartneriaid cydnabyddedig, gan gynnwys Cadw.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Ac mae mwy! Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol, sef pecyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision. Mae’r pecyn hwn ar gael i holl ofalwyr maeth Maethu Cymru, felly byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

Young girl on adults shoulders outdoors exploring

un tîm

Rydyn ni’n gweithio gyda chi, y plant yn eich gofal a phob gweithiwr proffesiynol o amgylch y plentyn, fel rhan o un tîm. Tîm yr Awdurdod Lleol. Fel gofalwr maeth, byddwch chi wastad yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu gan eich bod chi’n hanfodol i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni wastad yn gweithio gyda’n gilydd, dim ots beth. Ein blaenoriaeth yw rhoi’r dyfodol gorau posibl i blant, a’u teuluoedd. A byddwn ni’n gwneud hyn gyda’n gilydd.

Drwy ymuno â ni, rydych chi’n helpu plant i aros yn eu hardal leol – gan eu galluogi i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.

Woman helping young girl with homework

dysgu a datblygu

Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn meithrin eich twf – mae dysgu a datblygu yn rhan bwysig o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig. Mae’r fframwaith a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yn gyson ar draws Cymru, felly rydych chi’n elwa o becyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi ac sy’n cael ei rannu.

Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch chi i’ch galluogi i ddiwallu anghenion y plant sydd yn eich gofal, gan eich paratoi i fod yn hyderus ac yn abl.

Drwy faethu gyda ni, byddwch chi’n cael cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chofnodi’r cynnydd rydych chi’n ei wneud ar eich taith – y sgiliau a’r profiadau trosglwyddadwy y byddwch chi’n eu hennill ar eich taith.

Two young boys in playground playing together on seesaw

cefnogaeth

Gyda Maethu Cymru, dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae gennych chi dîm wrth law i’ch helpu chi bob cam o’r ffordd, dim ots beth. Rydyn ni yma i chi bob amser.

Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda gweithiwr cymdeithasol medrus a phroffesiynol ac yn cael mynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi. Mae’r grwpiau hyn yn fuddiol gan y byddan nhw’n eich galluogi i gwrdd â gofalwyr maeth eraill. Gallwch chi siarad, gwrando a rhannu eich profiadau â phobl sydd yn yr un sefyllfa â chi – pobl sy’n deall. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael gan bob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth.

Mae cefnogaeth broffesiynol ar gael hefyd. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, sy’n golygu ein bod ni wrth law bob amser ar gyfer unrhyw beth sydd ei angen arnoch chi.

Byddwch chi’n dod o hyd i gymunedau newydd drwy Maethu Cymru, gan gynnwys grwpiau cefnogi i ddynion sy’n maethu ac i fathau arbenigol o ofalwyr maeth. Byddwch chi’n cael eich amgylchynu gan bobl sy’n deall.

Group of happy teenagers laughing sitting in group on floor

y gymuned faethu

Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad.

Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn gwerthfawrogi’r cysylltiad. Byddwch chi’n cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i’ch cysylltu chi â theuluoedd maeth eraill, gan roi profiadau, atgofion a chyfleoedd i wneud ffrindiau newydd.

Hefyd, byddwch chi’n gallu cael mynediad at lawer o wybodaeth a chyngor ar-lein, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun ar eich taith.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni hefyd yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Pam? Rydyn ni’n gwerthfawrogi cymaint y gall y sefydliadau maethu arbenigol hyn eich helpu chi – mae’r gefnogaeth annibynnol, y cyngor preifat a’r cyfoeth o fanteision eraill maen nhw’n eu cynnig yn amhrisiadwy.

Adult helping boy learn to ride a bicycle

llunio’r dyfodol

Rydyn ni’n edrych ymlaen, gan ganolbwyntio ar y dyfodol disgleiriach sydd ar y gweill i’n plant lleol. Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, rydych chi’n rhan o’r ffordd rydyn ni’n llunio’r dyfodol hwnnw.

Byddwch chi’n cael eich clywed nid yn unig yn lleol ond yn rhanbarthol ac yn genedlaethol hefyd. Bydd eich barn yn dylanwadu ar sut byddwn ni’n symud ymlaen. Bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru, yn ogystal â chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltwch â’n tîm gofal maeth lleol heddiw

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.