ffyrdd o faethu
mathau o faethu
mathau o faethu
Mae yna wahanol fathau o ofal maeth, ond mae pob un yn rhannu’r un gwerthoedd craidd: darparu cartref diogel a sefydlog lle gall plant dyfu. Lle i fyw, dysgu, chwerthin a theimlo eu bod yn cael eu caru.
Mae maethu yn gallu bod am gyfnod byr neu gall fod yn fwy hirdymor. Does dim dau blentyn yr un fath, a dydy’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw ddim yr un fath chwaith. Dydy’r teulu maeth arferol ddim yn bodoli.
gofal maeth tymor byr
Mae gofal maeth tymor byr yn gallu golygu unrhyw beth rhwng awr neu ddiwrnod, hyd at fis, neu hyd yn oed flwyddyn! Mae’r math hwn o drefniant yn bodoli ar gyfer pan fydd cynlluniau’n dal i gael eu hystyried.
Fel gofalwr maeth tymor byr, byddwch chi’n gweithio gyda ni wrth i ni sicrhau’r ‘tymor hir’, sydd weithiau’n cael ei alw’n sefydlogrwydd. Bydd hyn yn golygu bod yno bob amser i blentyn pan fydd eich angen chi arno, a’i helpu i symud ymlaen hefyd pan fydd hi’n amser.
Dydy arhosiad byr ddim yn llai pwysig. Mae pob un cam ar y daith yn cyfrif, a dyma’r cam cyntaf yn aml. Mae’n gam i’r cyfeiriad iawn, a dyna beth sy’n bwysig i bob plentyn yn ein gofal.
gofal maeth tymor hir
Mae gofal maeth tymor hir yn darparu teulu a chartref newydd i blant sydd ddim yn gallu byw gartref.
Mae’n golygu cysylltu’r plentyn maeth iawn â’r gofalwr iawn am gyhyd ag y bydd eich angen chi arno. Mae gofal maeth tymor hir yn cynnig amgylchedd sefydlog i blentyn ei alw’n gartref. Teulu maeth am oes.
mathau arbenigol o ofal maeth
Mae maethu tymor byr a thymor hir yn gallu cynnwys gwahanol fathau o ofal maeth, fel mathau sydd angen math penodol o gymeradwyaeth:
seibiant byr
Mae seibiant byr yn galluogi plant i gael rhywfaint o amser oddi wrth eu teulu – amser i anadlu. Wedi’r cyfan, mae pob un ohonon ni angen seibiant o bryd i’w gilydd. Mae’n gallu golygu cael plentyn dros nos, yn ystod y dydd neu ar y penwythnos.
Mae’r seibiant hwn, sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘ofal cymorth’, yn aml yn cael ei drefnu ymlaen llaw ac mae’n rhoi profiadau a chyfleoedd newydd i blant. Drwy gynnig seibiant byr i blentyn, gallwch chi fod yn rhan o’i deulu estynedig a gwneud byd o wahaniaeth yn ystod ei amser i ffwrdd.
rhiant a phlentyn
Mae lleoliadau i rieni a phlant yn eich galluogi chi i rannu eich profiad chi o fagu plant gyda rhiant sydd angen arweiniad a chefnogaeth ychwanegol mewn amgylchedd sefydlog. Mae’n ymwneud â helpu rhieni i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ofalu am eu plentyn ar eu pen eu hunain.
Darllenwch fwy: Beth yw maethu rhiant a phlentyn?
gofal therapiwtig
Weithiau gall fod angen math gwahanol o ofal ar blant sydd ag anghenion mwy cymhleth. Dyna beth yw rôl lleoliadau therapiwtig. Mae gofalwyr therapiwtig a’u plant yn cael cefnogaeth ychwanegol i ddarparu ar gyfer eu hamgylchiadau unigryw.