stori

ruth

Newidiodd Ruth ei bywyd yn llwyr ar ôl gwella yn dilyn salwch difrifol ddeng mlynedd yn ôl – penderfynodd ei bod yn dymuno maethu plant sydd angen cartref cariadus a diogel yn Sir Gaerfyrddin.

y teulu maeth

Mae Ruth yn byw gyda’i merch 22 oed, Alice, ac mae hi wedi bod yn maethu ers bron i naw mlynedd. 

“Rwyf wastad wedi bod eisiau maethu ond roedd rhywbeth yn fy rhwystro bob amser. Yna, tua deng mlynedd yn ôl, roeddwn i’n sâl iawn. Diolch i’r drefn, fe wnes i ddod drwyddi, ond fe wnaeth hynny i mi feddwl am yr hyn oedd yn bwysig i mi, a faint roeddwn i wir eisiau maethu.”

Mae maethu wedi newid bywyd Ruth. Mae hi wedi dysgu cymaint o sgiliau gyda chymorth ein tîm Maethu Cymru lleol yn Sir Gaerfyrddin ac mae hi wedi dod yn fwyfwy hyderus wrth dderbyn gwahanol blant a lleoliadau.

“Drwy weithio gyda thîm maethu’r Awdurdod Lleol, rwyf wedi cwrdd â llawer o ofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol sy’n bobl anhygoel.”

“cefnogaeth, ddydd ar ôl dydd”

Dydy bod yn rhiant sengl ddim yn golygu bod Ruth ar ei phen ei hun. Rydyn ni’n un tîm mawr yma yn Sir Gaerfyrddin – rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Rydyn ni bob amser ar gael, boed hynny i roi cyngor, cefnogaeth, hyfforddiant neu ddim ond i wrando.

“Maen nhw’n cefnogi pobl ddydd ar ôl dydd. Mae’r gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i ni yn anhygoel, maen nhw’n arwyr go iawn.”

“mae maethu wedi newid ein bywydau i gyd”

I Ruth, mae maethu yn rhan fawr o’i bywyd. Mae’n fwy na swydd. Mae’n gyfle i garu pobl nad ydyn nhw’n gwybod sut beth yw cael eu caru. Mae Ruth yn teimlo bod manteision maethu yn drech nag unrhyw heriau mae’n eu hwynebu ar hyd y ffordd, yn enwedig gyda’i dau blentyn maeth y mae hi wedi bod yn gofalu amdanyn nhw ers 6 mlynedd. 

“Maen nhw wedi dod yn eu blaenau’n dda iawn ers hynny. Mae pethau wedi bod i fyny ac i lawr, ond mae gweld y ddau yn gwneud yn dda iawn yn yr ysgol ac yn tyfu i fod yn bobl ifanc gofalgar yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”

Mae’n ymwneud â chreu dyfodol gwell i blant yn eich cymuned leol, a dyna’n union mae Ruth yn ei wneud.

“Rwy’n falch fy mod i’n gallu cynnig y math o gartref y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, i’r plant hyn. Mae fy merch bellach yn athrawes ysgol gynradd, felly rwy’n hoffi meddwl bod maethu wedi ein hysbrydoli ni i gyd.”

hoffech chi gychwyn ar eich taith faethu eich hun?

Ydych chi fel Ruth? Ydych chi wastad wedi bod eisiau maethu ond bod rhywbeth yn eich atal bob tro? Os yw ei stori wedi eich ysbrydoli chi, beth am gysylltu â ni heddiw. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac yn eich cefnogi wrth i chi gymryd eich cam cyntaf ar eich taith i faethu.

hoffech chi ddysgu mwy?

Cewch ragor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi yma.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.