sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Rydych chi i gyd ar fin cychwyn ar eich taith faethu, ond pa mor hir mae’r broses yn ei chymryd yn Sir Gaerfyrddin, a beth allwch chi ei ddisgwyl?

cam 1 – cysylltwch
Cam un tuag at fod yn ofalwr maeth yma yn Sir Gaerfyrddin yw cysylltu â ni. Cyn gynted ag y byddwch chi’n codi’r ffôn neu’n anfon e-bost aton ni, rydych chi ar y ffordd. Dydy hyn ddim yn teimlo fel cam mawr efallai, ond mae’n nodi dechrau rhywbeth sy’n newid bywyd.

cam 2 – yr ymweliad cartref
Y cam nesaf yw dod i’ch adnabod chi. Byddwn yn dechrau gydag ymweliad â’ch cartref, os yw hynny’n bosib, neu gyda galwad fideo. Mae’n bwysig ein bod ni’n meithrin perthynas â chi o’r dechrau, er mwyn i ni allu dysgu popeth amdanoch chi – pwy sy’n golygu’r mwyaf i chi, ble rydych chi’n ei alw’n gartref, a sut rydych chi’n gweld eich hun fel gofalwr maeth.

cam 3 – yr hyfforddiant
Rydyn ni’n darparu cwrs hyfforddi tri diwrnod, sy’n rhoi cyfle i chi gwrdd â thîm Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn ogystal â gofalwyr maeth eraill yn y gymuned. Mae’r cwrs yn gyfeillgar ac yn anffurfiol ac mae’n darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi.
“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni”.

cam 4 – yr asesiad
Efallai fod asesiad yn swnio’n frawychus, ond mae’n gyfle i ni edrych ar sut mae eich teulu’n gweithio. Bydd hefyd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Mae’r asesiadau’n cael eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol medrus, sy’n ystyried cryfderau a gwendidau eich uned deuluol.
Mae’n ymwneud â pharatoi ar gyfer y gwahanol heriau a manteision y gallech chi ddod ar eu traws drwy faethu.

cam 5 – y panel
Bydd ein panel, sy’n cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol gwybodus a phrofiadol yn ogystal ag aelodau annibynnol, yn ystyried eich asesiad. Bydd pob person ar y panel yn edrych ar y darpar ofalwr maeth fel unigolyn.
Dydy’r panel ddim yno i roi cychwyn ar eich taith, nac i roi stop arni chwaith. Mae’n ymwneud â gwerthuso eich cais a phenderfynu ar yr opsiwn gorau i chi.

cam 6 – y cytundeb gofal maeth
Mae’r cytundeb gofal maeth yn gytundeb ysgrifenedig sy’n nodi eich cyfrifoldebau chi fel gofalwr maeth, yn ogystal â’r gwasanaethau a’r arbenigedd y byddwn ni’n eu darparu i chi fel eich rhwydwaith cefnogi. Bydd y cytundeb hwn yn cael ei wneud ar ôl i’r panel ystyried eich asesiad.