ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu yn sir gaerfyrddin?

Mae pob plentyn yn unigryw, a’u rhieni maeth hefyd. Mae gennyn ni ofalwyr maeth o bob mathau o gefndiroedd yn Sir Gaerfyrddin – does dim rhiant maeth arferol ar gyfer unrhyw blentyn.

Mae yna blant yn eich cymuned leol sydd angen rhywun fel chi i wrando arnyn nhw a chredu ynddyn nhw, beth bynnag yw statws eich perthynas, eich ethnigrwydd, eich cyfeiriadedd rhywiol neu’ch crefydd. Mae’n ymwneud â darparu cartref yn llawn gofal i’r plant hyn, ac mae hynny’n rhywbeth y gallwch chi ei wneud.

Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ein gofalwyr. Beth sy’n bwysig yw’r sgiliau a’r profiadau y gallwch eu cynnig – rydyn ni’n credu bod sgiliau amrywiol yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Rydyn ni’n gwerthfawrogi popeth sy’n eich gwneud chi’n unigryw.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Dim ots pwy ydych chi, mae maethu yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i blant yn eich cymuned leol. Mae’n golygu pethau gwahanol – o aros dros nos i rywbeth tymor hirach. Mae angen gwahanol bobl yn y maes maethu hefyd. Dyna pam mae arnon ni angen gofalwyr amrywiol sydd â chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol.

Rydyn ni yma i chi pan rydych chi ein hangen ni. Rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd, ynghyd â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned, i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant yn Sir Gaerfyrddin.

O ran ‘pwy’, rydyn ni’n gofyn dau gwestiwn: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

alla i faethu yn sir gaerfyrddin os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Os ydych chi’n gweithio’n llawn amser, efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch chi gan deulu a ffrindiau. Fydd gweithio’n llawn amser ddim yn eich atal rhag gallu maethu, ond bydd angen meddwl yn fwy gofalus. Efallai y gallwch gynnig gwyliau byr i blant o amgylch eich gwaith. Mae ateb i bawb.

Yn groes i beth mae llawer yn ei gredu, mae gofyn gweithio fel tîm wrth faethu. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion, ac rydyn ni bob amser wrth law i’ch helpu. Dydych chi byth ar eich pen eich hun gyda Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Heb os nac oni bai. Y prif beth yw bod eich cartref yn ddiogel – os ydych chi’n teimlo’n sefydlog, gallai plentyn deimlo felly hefyd. Dydy p’un ai ydych chi’n berchen ar yr eiddo neu’n rhentu ddim yn effeithio ar eich gallu i fod yn ofalwr maeth.

Os oes gennych ystafell sbâr, beth am ystyried cynnig lle diogel i blentyn sydd ei angen? Fe allech chi ddarparu lle i blentyn ei alw’n gartref.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Wrth gwrs, gallwch chi ymestyn eich teulu drwy faethu! Mae plant yn gallu elwa o gael brodyr a chwiorydd maeth – mae’n rhoi dealltwriaeth iddyn nhw, yn eu helpu i ffurfio perthnasoedd gyda phlant eraill ac yn datblygu eu gallu i ofalu am eraill.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf. Byddwn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch chi i’ch paratoi chi ar gyfer eich taith tuag at faethu, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Y cwbl rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod chi’n weddol ffit ac iach.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Does dim terfyn oedran isaf chwaith. Er bod profiad bywyd yn gwneud gwahaniaeth, dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch chi faethu. Byddwn ni’n eich arwain chi drwy gydol eich taith tuag at faethu, beth bynnag fo’ch oedran.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Dydy statws eich perthynas ddim yn ffactor, felly does dim gwahaniaeth p’un ai ydych chi’n sengl, yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Yr hyn rydyn ni’n ei ystyried yw sefydlogrwydd. Os ydych chi’n gallu cynnig hyn, fe allwch chi faethu. Bydd y tîm lleol yma yn Sir Gaerfyrddin yn eich helpu i benderfynu ai dyma’r amser iawn i chi.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch – dim eich rhywedd chi sy’n penderfynu a fyddwch chi’n gwneud gofalwr maeth da. Eich personoliaeth a’ch sgiliau sy’n bwysig.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch. Mae ar blentyn angen rhywun sy’n gallu cynnig lle diogel, rhywun sy’n gallu gwrando a gofalu amdano. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn cael ei ystyried.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Byddwn ni’n cynnwys eich anifeiliaid anwes yn eich asesiad i sicrhau y byddan nhw’n cyd-dynnu’n dda ag unrhyw blant maeth yn y dyfodol.

Dydy cael ci neu gath ddim yn golygu na allwch chi faethu. Yn wir, mae anifeiliaid anwes yn cynnig math arall o gymorth ac maen nhw’n gallu bod o fudd go iawn mewn teulu maeth.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae gwahanol bolisïau o ran ysmygu a gofal maeth, yn dibynnu ar yr Awdurdod Lleol, ond mae’n bwysig eich bod chi’n onest o’r dechrau. Os hoffech chi roi’r gorau iddi, rydyn ni yma i gynnig arweiniad a chefnogaeth. Fel arfer, ein nod yw dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhyngoch chi â’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod gwaith yn gallu bod yn rhywbeth cyfnewidiol iawn, felly fydd bod yn ddi-waith ar hyn o bryd ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth. Byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod yr amser yn iawn i chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Does dim angen tŷ mawr. Yr unig beth sydd ei angen yw ystafell sbâr mewn tŷ sy’n ddiogel ac yn saff. Rhywle lle gall plentyn deimlo bod rhywun yn ei garu a theimlo yn gartrefol.

rhagor o wybodaeth am faethu

On the beach, an adult and two children are walking

mathau o faethu

Mae maethu’n wahanol i bob teulu a phlentyn. Mae’n gallu golygu nifer o bethau – o ymweliadau byr rheolaidd i rywbeth mwy parhaol. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o faethu a sut gallai weithio i chi.

dysgwch mwy
A picnic with an adult and two children

cwestiynau cyffredin

O’r pethau bach bob dydd i’r digwyddiadau a’r cyfleoedd hyfforddi, cewch wybod beth i’w ddisgwyl gyda maethu yma.

dysgwch mwy
Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.