pwy all faethu?
Mae pob plentyn yn wahanol, fel pob gofalwr maeth. Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn dathlu amrywiaeth.
pwy all faethucydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, yn rhannu gwybodaeth ac yn creu dyfodol mwy disglair i blant lleol.
Ni yw Maethu Cymru Sir Gâr , ac rydyn ni’n rhan o Maethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol.
Sut mae dechrau ar y daith tuag at fod yn ofalwr maeth? Mae maethu yn ymrwymiad ac yn her, ond mae hefyd yn werth chweil – mewn mwy o ffyrdd na’r ydych chi’n gwybod.
I wneud gwahaniaeth i deuluoedd yn eich cymuned leol. Fel gofalwr maeth, gallwch roi rhywbeth yn ôl.
Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch chi i’ch helpu ar eich taith tuag at greu dyfodol gwell i blant lleol, o hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol i lwfansau ariannol.
Rydyn ni’n eich cefnogi mewn nifer o ffyrdd, sut bynnag a phryd bynnag y byddwch chi ein hangen ni. Beth rydyn ni’n ei gynnig.
Hoffech chi wybod sut mae dod yn ofalwr maeth yn Sir Gâr? Mae’n syml iawn, a gallwch chi ddechrau arni heddiw.