pam maethu gyda ni?
pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
Ym Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin, rydyn ni’n ein gosod ein hunain ar wahân i asiantaethau maethu eraill. Sut? Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Felly, pam ein dewis ni? Pobl sy’n bwysig i ni, dim elw. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda gofalwyr maeth i greu dyfodol gwell i blant, ac rydyn ni’n sefydliad nid-er-elw – gyda’r holl gyllid rydyn ni’n ei gael yn mynd tuag at wella ein gwasanaeth. Ein nod yw sicrhau bod plant yn aros yn eu hardal leol, er mwyn iddyn nhw allu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Dydy hyn ddim yn rhywbeth y mae pob asiantaeth yn gallu ei addo.

ein cenhadaeth
Mae yna blant ar draws Sir Gaerfyrddin sydd ein hangen ni, ac sydd eich angen chi hefyd. Mae gan bob plentyn stori wahanol, ond mae ein nod yr un fath: creu dyfodol gwell ar eu cyfer.

ein cefnogaeth
Ni yw eich rhwydwaith cefnogi lleol ac ymroddedig, yn darparu cymorth i chi a’r plant yn ein gofal.
Ni waeth ble bydd eich taith faethu yn mynd â chi, byddwn ni yno i’ch arwain chi bob cam o’r ffordd. O gynnig cyngor a hyfforddiant i rannu ein harbenigedd, rydyn ni wrth law i helpu.

ein ffyrdd o weithio
Rydyn ni’n gweithio fel tîm i wneud ein gorau glas dros bob plentyn lleol sydd ein hangen ni, a’u teuluoedd maeth. Mae cysylltu a chydweithio wedi’u gwreiddio ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.
Dydyn ni ddim yn sefydliad pell. Rydyn ni’n rhan o’ch cymuned, a dyna sut rydyn ni’n gweithio.
Mae pob plentyn yn wahanol, yn union fel ein gofalwyr maeth. Rydyn ni’n ymdrechu i’w helpu i wneud y gorau y gallan nhw drwy ddefnyddio eu sgiliau presennol a chefnogi eu twf a’u datblygiad.

eich dewis
Mae ein gweithwyr yn poeni ac eisiau gwneud gwahaniaeth i blant sy’n byw yn y gymuned. Drwy ddewis Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin, rydych chi’n dewis gweithio ochr yn ochr ag unigolion hyfforddedig sydd wedi ymrwymo i ddod o hyd i gartrefi diogel i blant a phobl ifanc yma yn ein hardal leol.
I gymryd eich cam cyntaf tuag at greu dyfodol mwy disglair i blant lleol, cysylltwch â ni heddiw.