ffyrdd o faethu
eisoes yn maethu?
os ydych eisoes yn maethu?
Os ydych eisoes yn maethu ar gyfer asiantaeth neu awdurdod lleol arall, yna rydych eisoes wedi gwneud y penderfyniad pwysig i agor eich calon a’ch cartref i blant sydd angen cartref cynnes, sefydlog a chariadus.
Os ydych wedi cael eich cymeradwyo fel rhieni maeth ond heb gael cyfle eto i groesawu plentyn a chynnig profiadau a chyfleoedd newydd iddo. Neu os ydych chi’n symud o ardal arall, cysylltwch â Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin a dysgu am y gefnogaeth a’r gwasanaethau y gallwn eu darparu.
Fel awdurdod lleol, mae gennym gyfrifoldeb am ofalu am yr holl blant sydd angen gofal yn Sir Gâr. Ein blaenoriaeth yw ein teuluoedd maeth Maethu Cymru Sir Gâr. Ein nod yw cadw plant yn eu cymunedau, yn agos at eu cartrefi, fel eu bod yn parhau â’u haddysg yn yr un ysgol ac yn cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u hanwyliaid.

Manteision maethu gyda Maethu Cymru Sir Gâr
Mae maethu yn uniongyrchol gyda ni yn cynnig llawer o fanteision. Byddwch yn elwa’n fawr o fod yn rhan annatod o dîm ymroddedig a gwybodus sy’n deall cefndir, adnoddau lleol ac ysgolion plentyn. Bydd yr arbenigedd hwn yn amhrisiadwy i chi yn eich rôl fel gofalwr maeth.
Yn ogystal, gallwn ddarparu amrywiaeth a hyblygrwydd, gyda chyfleoedd i ofalu am blant o ystod eang o oedrannau, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau. Drwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, byddwch yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau plant ac yn chwarae rhan hanfodol yn eu datblygiad a’u llesiant.

beth i'w ddisgwyl oddi wrthym
Drwy gael gofalwyr maeth sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda ni, gallwn ddarparu’r hyn sydd ei angen ar ein plant a’n gofalwyr maeth mewn gwirionedd; cefnogaeth a hyfforddiant lleol gan dîm lleol, a hefyd
- Lwfansau plentyn a gofalwr cynhwysfawr (gan gynnwys lwfansau pen-blwydd a gwyliau ychwanegol)
- Rhwydwaith cymorth o ofalwyr maeth a mentoriaid cymheiriaid yn Sir Gâr
- Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar eich dysgu a’ch datblygiad, gan gynnwys hyfforddiant ar-lein a hyfforddiant a gweithdai lleol gydag adnodd digidol hawdd ei gyrchu.
- Rydym yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau seicoleg i gefnogi ein plant a’n gofalwyr maeth gyda thechnegau rhianta therapiwtig
- Fforymau misol lleol, grwpiau cymorth a digwyddiadau maethu
- Gwasanaeth 24 awr
- Aelodaeth CADW i chi a’ch teulu
- Mynediad i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gâr