
maethu yn sir gâr
sut mae'n gweithio
sut mae’n gweithio
Efallai y bydd y syniad o faethu wedi gwneud i chi feddwl sut beth yw bywyd bob dydd i deuluoedd maeth. Ar bob cam o’r broses, mae maethu yn Sir Gaerfyrddin yn fwy cysylltiedig nag y byddech chi’n ei feddwl.
Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol i’n holl ofalwyr maeth, a’u teuluoedd, pryd bynnag y bydd eu hangen arnyn nhw. Rydyn ni ar gael dros y ffôn, drwy neges destun, e-bost – pryd bynnag rydych chi ein hangen ni.

gwell gyda’n gilydd
Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yma i’ch cefnogi chi, y plant sydd yn ein gofal, eu teuluoedd maeth a’r gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gweithio gyda ni bob dydd.
Dim ond oherwydd bod pob Awdurdod Lleol ar draws Cymru yn gweithio fel un tîm mawr rydyn ni’n gallu cynnig gymaint o gefnogaeth. Ac oherwydd ein bod ni’n sefydliad nid-er-elw, mae popeth yn mynd yn ôl i’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu, er mwyn ein gwneud ni’n well yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Dydyn ni ddim yn asiantaeth faethu arferol. Mae gan Maethu Cymru 22 o dimau maethu ymroddedig mewn Awdurdodau Lleol ar draws Cymru, gan gynnwys ein tîm ni yma yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r pwyslais lleol hwn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i Sir Gaerfyrddin. Rydyn ni eisiau i blant yn Sir Gaerfyrddin aros yn eu cymunedau lleol a chadw eu cefndiroedd diwylliannol a’u cysylltiadau pwysig. Mae pob plentyn, wedi’r cyfan, yn haeddu’r cyfle i berthyn.
Y ffocws ar y gymuned yw’r hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod plant yn aros yn yr ardal lle cawson nhw eu magu. Rydyn ni eisiau iddyn nhw deimlo’n gartrefol mewn lle cyfarwydd.