sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Rydych chi i gyd ar fin cychwyn ar eich taith faethu, ond pa mor hir mae’r broses yn ei chymryd yn Sir Gaerfyrddin, a beth allwch chi ei ddisgwyl?

Closeup of young boys legs playing hopscotch

cam 1 – cysylltwch

Cam un tuag at fod yn ofalwr maeth yma yn Sir Gaerfyrddin yw cysylltu â ni. Cyn gynted ag y byddwch chi’n codi’r ffôn neu’n anfon e-bost aton ni, rydych chi ar y ffordd. Dydy hyn ddim yn teimlo fel cam mawr efallai, ond mae’n nodi dechrau rhywbeth sy’n newid bywyd.

Adult helping boy learn to ride a bicycle

cam 2 – yr ymweliad cartref

Y cam nesaf yw dod i’ch adnabod chi. Byddwn yn dechrau gydag ymweliad â’ch cartref, os yw hynny’n bosib, neu gyda galwad fideo. Mae’n bwysig ein bod ni’n meithrin perthynas â chi o’r dechrau, er mwyn i ni allu dysgu popeth amdanoch chi – pwy sy’n golygu’r mwyaf i chi, ble rydych chi’n ei alw’n gartref, a sut rydych chi’n gweld eich hun fel gofalwr maeth.

Adult tying childs shoe lace

cam 3 – yr hyfforddiant

Rydym yn darparu cwrs hyfforddi chwe diwrnod, sy’n rhoi cyfle i chi gwrdd â thîm Maethu Cymru Sir Gâr yn ogystal â gofalwyr maeth lleol eraill. Mae’r cwrs yn gyfeillgar ac yn anffurfiol ac mae’n darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi.

“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni”.

Woman helping young girl with homework

cam 4 – yr asesiad

Efallai fod asesiad yn swnio’n frawychus, ond mae’n gyfle i ni edrych ar sut mae eich teulu’n gweithio. Bydd hefyd yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Mae’r asesiadau’n cael eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol medrus, sy’n ystyried cryfderau a gwendidau eich uned deuluol.

Mae’n ymwneud â pharatoi ar gyfer y gwahanol heriau a manteision y gallech chi ddod ar eu traws drwy faethu.

Two young boys in playground playing together on seesaw

cam 5 – y panel

Bydd ein panel, sy’n cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol gwybodus a phrofiadol yn ogystal ag aelodau annibynnol, yn ystyried eich asesiad. Bydd pob person ar y panel yn edrych ar y darpar ofalwr maeth fel unigolyn.

Dydy’r panel ddim yno i roi cychwyn ar eich taith, nac i roi stop arni chwaith. Mae’n ymwneud â gwerthuso eich cais a phenderfynu ar yr opsiwn gorau i chi.

Adult and young girl holding hands

cam 6 – y cytundeb gofal maeth

Mae’r cytundeb gofal maeth yn gytundeb ysgrifenedig sy’n nodi eich cyfrifoldebau chi fel gofalwr maeth, yn ogystal â’r gwasanaethau a’r arbenigedd y byddwn ni’n eu darparu i chi fel eich rhwydwaith cefnogi. Bydd y cytundeb hwn yn cael ei wneud ar ôl i’r panel ystyried eich asesiad.

cwrdd â thîm maethu cymru sir gaerfyrddin

Dim byd ar gael…

Woman and young girl using computer to make video call

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?