blog

“wrth wraidd y cyfan mae plentyn sydd angen i chi ofalu amdanyn nhw a’u caru”

Mae gofalwr maeth yn Sir Gaerfyrddin yn rhannu eiliadau pwerus ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth.

Mae’r tro cyntaf i blentyn chwerthin, rhannu gwybodaeth am ei ddiwrnod neu ofyn am wylio ffilm yn eiliadau y gallai llawer o bobl eu cymryd yn ganiataol. I ofalwyr maeth, gallant olygu rhywbeth llawer mwy.

Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Canfu arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru fod tua 80% o’r gofalwyr maeth a arolygwyd wedi cefnogi plant sy’n dangos ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrawma. Er bod yr heriau hyn yn gallu bod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr hyn eu bod wedi sylwi ar ddatblygiad ystyrlon o fewn chwe mis cyntaf lleoliad.

Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau hyn yn aml wedi’u gwreiddio mewn rhyngweithiadau bob dydd, ond maen nhw’n cynrychioli llawer mwy na hynny. I blant mewn gofal maeth, gallant ddangos cynnydd, ymddiriedaeth gynyddol, a dechrau iachau ar ôl trawma plentyndod.

Ar ôl profiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrawma.

Roedd Ammanyso Sir Gaerfyrddin, sy’n maethu ochr yn ochr â’i mam, Louise, yn un o 120 o ofalwyr maeth a ymatebodd i arolwg Maethu Cymru. Gyda’i gilydd, maent wedi gofalu am blant ag anghenion cymhleth yn dilyn profiadau o drawma.

Dywedodd Ammanys:

“Mae cymryd eich lleoliad cyntaf yn brofiad nerfus. Rydych chi wedi treulio misoedd yn ymchwilio a dysgu a nawr rydych chi’n gofalu am blentyn sydd wedi bod trwy fwy nag y dylai’r rhan fwyaf o oedolion erioed. Rydych chi’n gwneud y gorau y gallwch ac yn cymryd pob dydd ar y tro.

Mae’n debyg mai cwrdd â’r plant ar eu lefel nhw yw’r peth gorau y gallwn ni ei wneud fel gofalwyr maeth. Weithiau ni allwn drwsio pethau, ac nid oes angen i ni wneud hynny. Mae angen iddyn nhw wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod rhywun yn poeni.

Mae’n ymwneud â gweld y buddugoliaethau bach. Plentyn di-eiriau yn dweud ei eiriau cyntaf, plentyn yn bod yn agored am ei drawma, yn gofyn i chi am help, neu’n teimlo’n ddigon diogel i fynd i’r ystafell ymolchi heb ofyn yn gyntaf. Mae’r eiliadau hyn yn adeiladu eich hyder ac yn gwneud i bopeth ymddangos yn iawn.

Wrth wraidd y cyfan mae plentyn sydd angen i chi ofalu amdanyn nhw a’u caru.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

“Mae straeon fel Louise ac Ammanys yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae wrth helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael cefnogaeth. Yn Sir Gaerfyrddin, rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r hyfforddiant, yr arweiniad a’r gefnogaeth barhaus sydd eu hangen ar ofalwyr maeth lleol i helpu plant i wella o drawma a ffynnu.”

I gael gwybod mwy am faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn