
Wrth i Bythefnos Gofal Maeth (12-25 Mai) ddathlu pŵer perthnasoedd, mae Maethu Cymru Sir Gâr yn falch o rannu stori galonogol Marie a Mal, gofalwyr maeth lleol a’u cysylltiad agos â Madison, sy’n 15 oed.
Mae Marie a Mal, sy’n agosáu at eu wythfed flwyddyn fel gofalwyr maeth, wedi creu cartref sefydlog, cariadus i Madison a’i brawd ers iddyn nhw ddod i’w gofal chwe blynedd yn ôl. Dim ond naw mlwydd oed oedd Madison pan gafodd ei lleoli gyda’r pâr, ac mae’r cysylltiad maen nhw wedi’i adeiladu dros y blynyddoedd yn dyst i effaith drawsnewidiol maethu.
Ar hyn o bryd mae’r pâr, sydd â dau o blant eu hunain, yn gofalu am bump o blant maeth. Mae Marie a Mal yn pwysleisio pwysigrwydd trin pob plentyn gyda’r un gofal a chysondeb.
“Nid yw’n wahanol i fagu eich plant eich hun.”
I Madison, mae’r cysylltiad â’i theulu maeth wedi golygu popeth.
“Mae fy mherthynas â Marie a Mal yn golygu popeth i mi. Marie, Mal a’r teulu cyfan yw fy nheulu i. Rwy’n cael yr holl gariad a chefnogaeth yn y byd ganddyn nhw i gyd.”
Mae taith maethu’r pâr wedi’i chryfhau gan rwydwaith cefnogol.
“Mae ein teulu yn mwynhau cymryd rhan gan helpu pryd bynnag y mae eu hangen, a bod yn rhan o fywydau’r plant.
Mae anghenion pob plentyn yn wahanol. Rydym ni’n dysgu o hyd! Rydym yn cael cefnogaeth ardderchog gan ein gweithwyr cymdeithasol goruchwylio, gweithwyr cymdeithasol y plant, a’r tîm emosiynol.
Rydyn ni yn gorfod goresgyn rhwystrau ar hyd y ffordd, ond gyda’r holl gefnogaeth gan weithwyr proffesiynol mae’n ei gwneud hi’n haws.”
Mae Marie hefyd yn fentor i ofalwyr maeth eraill, gan ddefnyddio ei phrofiad i gefnogi’r rhai sy’n newydd i faethu. Mae ei rôl yn tynnu sylw at bŵer perthnasoedd nid yn unig gyda phlant maeth, ond o fewn y gymuned faethu hefyd.
“Gofalwyr maeth rydych chi’n dod yn ffrindiau gyda nhw ac yn cefnogi eich gilydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
“Mae stori Marie a Mal yn dangos pa mor bwysig yw perthnasoedd cryf, sefydlog i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth. Mae eu hymroddiad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywyd Madison, ac mae’n neges atgoffa bwerus o’r effaith barhaol y gall gofalwyr maeth ei chael.”
Ychwanegodd Rebecca, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol Marie a Mal:
“Dim ond misoedd sydd wedi mynd ers i fi fod yn cefnogi Marie a Mal, ac mae wedi bod yn brofiad gwych. Mae Marie a Mal yn darparu amgylchedd cynnes a chefnogol sy’n meithrin y plant yn eu gofal. Mae eu cyfathrebu cyson, eu hamynedd, a’u dealltwriaeth wedi cael effaith hynod bositif.”
I gael gwybod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth drwy faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr. Neu i wneud ymholiad, cysylltwch â ni.