stori

bev a reg

Dros Bythefnos Gofal Maeth (12-25 Mai), mae Maethu Cymru Sir Gâr yn dathlu pŵer perthnasoedd wrth drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc mewn gofal maeth.

I Bev a Reg, mae maethu wedi bod yn fwy na darparu cartref, mae wedi bod yn ymwneud â meithrin perthnasoedd parhaol i’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal. Ynghyd â’u tri phlentyn, maen nhw wedi bod yn maethu bachgen 17 oed ag anableddau ers 11 mlynedd.

Dros y blynyddoedd, mae wedi dod yn rhan anwahanadwy o’u teulu. Mae eu taith gyda’i gilydd wedi bod yn un o gariad, ymrwymiad a chysylltiad.

“Rydyn ni’n ffodus iawn i gael y dyn ifanc arbennig hwn yn ein gofal. Er nad yw’n gallu dweud wrthym ni ar lafar, mae’r gwên a’r cwtshis yn cadarnhau ei fod yn mwynhau ein cwmni. Mae gennym berthynas gryf iawn.”

Mae Bev yn mynd ymlaen i fyfyrio ar sut mae ei faethu wedi siapio bywyd eu teulu.

“Mae ei faethu wedi cael effaith enfawr ar fywyd ein teulu, ond yn bendant er gwell. Rydyn ni wedi cael pleser ei gwmni ers 11 mlynedd ac ni allwn ddychmygu ein bywyd hebddo. Mae’r teulu cyfan wedi ei groesawu ac yn falch o fod yn deulu maethu.”

Mae Bev a Reg bob amser wedi credu mewn cadw mewn cysylltiad â’i deulu geni. O  roi diweddariadau rheolaidd i gwrdd â’r teulu, maen nhw’n sicrhau ei fod yn parhau i rannu eiliadau gyda’r rhai sy’n ei garu.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn iddo gael amser gyda’i rieni a’i frodyr a’i chwiorydd. Mae Helen, Leighton, a minnau’n siarad yn wythnosol, ac rwy’n anfon lluniau a diweddariadau yn rheolaidd gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig eu bod yn rhan ohono.

Rydyn ni yn aml yn mynd i bartis ac achlysuron teuluol, sy’n caniatáu i aelodau o’i deulu estynedig ei weld hefyd.”

Mae ei rieni geni, Helen a Leighton, yn hynod ddiolchgar am y cariad a’r gofal y mae wedi’i dderbyn mewn gofal maeth gyda Bev a Reg:

“Rydyn ni’n ei weld yn tyfu ac yn cryfhau wythnos ar ôl wythnos ac mae’n hyfryd ei weld. Rydyn ni eisiau diolch yn fawr i Bev a Reg am ofalu amdano. Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd gofalwyr maeth da.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:

“Mae gofalwyr maeth fel Bev a Reg yn dangos pŵer gwirioneddol perthnasoedd wrth faethu. Mae eu hymroddiad yn sicrhau nid yn unig cartref diogel a chariadus ond hefyd sefydlogrwydd, parhad ac ymdeimlad o berthyn. Mae cynnal cysylltiadau teuluol a darparu gofal cyson i blant a phobl ifanc yn amhrisiadwy, ac rydym yn ddiolchgar am yr ymrwymiad maen nhw wedi’i ddangos.”

I unrhyw un sy’n meddwl am faethu, mae gan Bev a Reg un darn o gyngor.

“Ewch amdani! Mae ganddo ei uchafbwyntiau emosiynol ond mae’n rhoi pleser mawr a gallai wneud gwahaniaeth enfawr i blentyn neu berson ifanc a’i deulu.”

I gael gwybod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth drwy faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr. Neu i wneud ymholiad, cysylltwch â ni nawr.

cysylltwch

cysylltu â ni

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Sir Gaerfyrddin yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.