blog

cefnogaeth therapiwtig i ofalwyr maeth

Mae maethu yn daith hynod ystyrlon sy’n aml yn dod â heriau unigryw, yn enwedig wrth ofalu am blant a phobl ifanc sydd wedi wynebu trawma. Yn Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi gofalwyr maeth nid yn unig yn logistaidd, ond yn emosiynol ac yn therapiwtig hefyd. Trwy ein tîm iechyd emosiynol, rydym yn cynnig cymorth therapiwtig sydd wedi’i gynllunio i helpu gofalwyr i ddeall, cysylltu a meithrin y plant a’r bobl ifanc yn eu gofal.

Pwy yw’r tîm iechyd emosiynol?

Mae ein tîm iechyd emosiynol yn cynnwys therapyddion a seicolegwyr medrus sy’n ymroddedig i gefnogi gofalwyr maeth a’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal. Maent yn gweithio naill ai’n uniongyrchol gyda gofalwyr maeth neu drwy ymgynghoriadau â gweithwyr cymdeithasol goruchwylio, gan eu helpu i ddeall anghenion y plant a’r bobl ifanc yn well. Mae’r tîm iechyd emosiynol yn cydnabod bod y cyswllt a’r agosatrwydd y mae gofalwyr maeth yn ffurfio gyda’r plant a’r bobl ifanc hyn yn chwarae rhan hanfodol yn llesiant hirdymor y plant.

“Pan welwn blentyn yn datblygu perthynas gref a llawn ymddiriedaeth gyda gofalwr maeth, efallai mai dyma’r tro cyntaf yn ei fywyd ei fod yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei garu ac yn derbyn gofal. Gall cynnal y berthynas honno fod yn anodd, ond pan fo gofalwr maeth yn amyneddgar, yn gyson ac yn garedig, a’r plentyn yn dechrau ymddiried a ffynnu, mae’n gwneud y cyfan yn werth chweil.” meddai Karon, Uwch-seicolegydd Addysg – Ymddygiad.

Ymwybyddiaeth o drawma a’r dull PACE: Canllaw i ofalwyr maeth

Pan fydd plentyn yn ymuno â theulu maeth, gall deall ei batrymau emosiynol ac ymddygiadol fod yn allweddol i adeiladu perthynas gefnogol. I gynorthwyo gyda hyn, mae ein tîm iechyd emosiynol yn darparu sesiynau “Deall y Plentyn” sy’n amlinellu llinell amser trawma pob plentyn, gan gynnig mewnwelediad i ofalwyr maeth o’r ymddygiadau y gallant eu harsylwi a beth allai’r ymddygiadau hyn ei olygu. Mae’r ddealltwriaeth hon yn helpu gofalwyr maeth i gydymdeimlo â phrofiadau unigryw ac ymateb yn briodol iddynt.

Un dull craidd rydym yn ei gefnogi yw PACE: Chwaraegarwch, Derbyn, Chwilfrydedd ac Empathi.  Mae’r dull hwn yn annog gofalwyr maeth i feithrin cysylltiadau diogel a dibynadwy gyda’r plant neu’r bobl ifanc yn eu gofal trwy ddefnyddio empathi a bod yn agored, gan eu galluogi i deimlo eu bod yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi yn eu cartrefi newydd.

I ddysgu mwy am PACE, ewch i DDP Network.

Cefnogaeth barhaus i ofalwyr maeth

Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai gofalwyr maeth i reoli ymddygiad neu ddeall anghenion y plentyn ymhellach. Mae’r tîm iechyd emosiynol yn cynnig cymorth therapiwtig parhaus â therfyn amser y gellir ei deilwra i wahanol amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys:

  • Sesiynau unigol i ofalwyr maeth: Gall gofalwyr maeth dderbyn arweiniad un i un i’w helpu i lywio heriau penodol a dyfnhau eu dealltwriaeth o anghenion y plentyn.
  • Sesiynau ar y cyd gyda’r plentyn a’r gofalwr maeth: Trwy ddull therapiwtig o’r enw theraplay, mae’r tîm iechyd emosiynol yn helpu gofalwyr maeth a phlant i feithrin cysylltiadau cadarnhaol. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys gweithgareddau chwareus a strwythuredig sy’n arwain gofalwyr maeth a phlant drwy ryngweithiadau hwyliog, meithringar. Dangoswyd bod y dull hwn yn meithrin ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn, a chysylltiad, gan helpu’r plentyn i deimlo’n ddiogel a’i bod yn cael ei werthfawrogi yn ei gartref newydd.

Am fwy o wybodaeth am theraplay, ewch i The Theraplay Institute.

Maethu gyda’ch awdurdod lleol

Mae ein tîm iechyd emosiynol yn cefnogi gofalwyr maeth i feithrin ymddiriedaeth a pherthynas gref â’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal, gan ddarparu’r arweiniad a’r offer sydd eu hangen i ffynnu.

Yn Maethu Cymru Sir Gâr, rydym yn fwy na dim ond rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol Cymru – ni yw eich tîm lleol, sy’n ymroddedig i feithrin dyfodol mwy disglair i blant yn ein cymuned. Cysylltwch â ni heddiw i wybod sut y gallwch chi gael effaith go iawn drwy faethu.

Ddim yn Sir Gâr? Dim problem! Ewch i Maethu Cymru i ddysgu mwy am faethu yn eich ardal a chysylltu â’ch tîm lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn