blog

maethu a rygby

Daw rhieni maeth o bob cefndir, pob un ar siwrnai wahanol ac â phrofiadau bywyd gwahanol.

Mae brwdfrydedd Keith Evans dros chwaraeon yn ymestyn o rygbi proffesiynol i godi pwysau yn gystadleuol.

Ond mae e’ hefyd yn frwd dros rywbeth arall.

Ers 17 mlynedd, mae e’ a’i bartner Becky wedi gofalu am blant sydd angen gofal maeth.

Yn ddiweddar, dyma ni’n cwrdd â Keith yng Nghlwb Rygbi Rhydaman i glywed am ei daith faethu, y cymorth y mae wedi’i gael gan y gymuned rygbi, a sut mae’n gobeithio addysgu eraill i fynd i’r afael â’r stigma y mae plant sydd mewn gofal yn profi.

“does dim un teimlad gwell na helpu plentyn sydd wedi cael dechrau anodd i’w bywyd i ragori a gwneud pethau anhygoel.”

“Wnes i byth ystyried maethu.”

“Dyma fi’n cwrdd â ‘mhartner i, Becky, ac roedd e’n rhywbeth roedd hi eisiau gwneud.”

“Ni wedi bod gyda’n gilydd ers tua 20 mlynedd nawr. Ac wedi bod yn maethu am 16-17 o’r blynyddoedd yna.”

“Roedd arfer bod stigma o amgylch plant maeth: “plant maeth, maen nhw wastad yn achosi trwbl a nes i fynd yn erbyn hynna a dweud “na, dyw e ddim fel’na.”

“Ti’n gwbod, ma’ pob plentyn sy’n dod mewn yn sbesial a dylen nhw gael eu trin yr un peth.”

“Os oes amser ‘da chi ac eisiau helpu plant eraill, gwnewch e’. Jest gwnewch e’.

“I lot o blant…chi’n helpu nhw i ymestyn eu hadenydd a gwneud pethau gwych.”

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd ei hoff dîm, y Scarlets, bartneriaeth â Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin i helpu plant lleol sydd mewn gofal – o herio stigma i ddod o hyd i fwy o rieni maeth.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda’ch awdurdod lleol yn Sir Gaerfyrddin neu i wneud ymholiad, cysylltwch â ni.

Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i ddod o hyd i’ch tîm awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn